Mae ein harolygon rhieni yn cynnig adborth hanfodol i’ch ysgol gan eich holl rieni a gofalwyr, am yr agweddau allweddol ar fywyd yr ysgol.
Mae rhieni yn elfen bwysig o gymuned yr ysgol. Mae eu barn, eu syniadau a’u dirnadaeth yn offeryn amhrisiadwy i helpu ysgolion i wella’u gwasanaethau a darparu’r cymorth addysgol a’r gofal y mae ar eu plant eu hangen.
Gallwch ddefnyddio ein harolygon i ddarparu tystiolaeth amhrisiadwy ar gyfer hunanwerthusiad yr ysgol, i gynllunio datblygiad yr ysgol ac ar gyfer arolygiad Estyn.
Gallwch ddefnyddio ein holiaduron parod, teilwra’r cwestiynau sydd gennym ni neu greu eich rhai eich hun! Gallwn gategoreiddio cwestiynau fel bod eich canlyniadau yn haws eu deall a gallwn ychwanegu logo eich ysgol yn rhad ac am ddim.
Gellir llenwi pob un o’n holiaduron ar-lein a/neu ar bapur.
Unwaith fyddwn ni wedi eich helpu i lunio’ch holiadur, byddwn yn ei argraffu, ei anfon a’i gasglu (os ydyw ar bapur), ac yna’n dadansoddi eich canlyniadau. Cyflwynir y canlyniadau ar ffurf siartiau clir, lliwgar, a hynny yn electronig ac fel copi caled. Yn anad dim, bydd eich canlyniadau gyda chi o fewn 7 niwrnod gwaith.
Prisiau
Math | ||||
---|---|---|---|---|
Rhieni | ||||
Disgyblion a Rhieni | ||||
Disgyblion, Rhieni a Staff | ||||
Os oes arnoch angen cyfuniad penodol o holiaduron neu os hoffech holiadur wedi ei deilwra'n arbennig, cysylltwch â ni. *Dylai ysgolion â 1300 o ddisgyblion neu fwy, gysylltu â ni am ddyfynbris. |
Geirda
“Roedd yn rhaid i mi ddweud wrthych, ac adrodd yn ôl i bwy bynnag y bo’n berthnasol, fod y gwasanaeth a gafwyd gan eich cwmni yn rhagorol! Ni chefais adborth mor gynhwysfawr gan unrhyw ddarparwr arolwg, erioed. Rydych chi wedi creu argraff sylweddol arna’ i, ac mae wedi bod werth bob ceiniog.”
“Dim ond eisiau dweud diolch yn fawr am eich gwasanaeth cyflym. Rydych wedi codi pwysau oddi ar fy meddwl ac mae’r cynnyrch gorffenedig yn broffesiynol iawn. Diolch yn fawr.”
“Roedd yr holiaduron gan rieni a phlant wedi creu cryn argraff ar y tîm arolygu – hwpais i nhw dan eu trwynau! Roedd yn ddefnyddiol cael yr holiadur llawn, oherwydd mewn arolygiad ni allwch warantu y bydd nifer dda o rieni yn dychwelyd eu holiaduron dros nos. Cawsom nifer dda yn cael eu dychwelyd yn eich arolwg chi.”