Cewch ddealltwriaeth well o farn ac anghenion eich cymuned sy’n dysgu, gyda’n holiaduron parod a’n holiaduron sydd wedi eu teilwra’n arbennig, sy’n gallu cael eu llenwi ar-lein neu ar bapur.
Mae ein harolygon disgyblion yn gymorth i chi baratoi ar gyfer holiaduron cyn arolygiad Estyn ar gyfer disgyblion a dysgwyr, ac maent yn cynnig adborth hanfodol gan eich holl ddisgyblion am y prif agweddau ar fywyd yr ysgol. Bydd adborth gan eich disgyblion yn darparu tystiolaeth amhrisiadwy ar gyfer hunanwerthusiad eich ysgol, y gwaith o gynllunio datblygiad yr ysgol ac arolygiad Estyn.
Yn sgil holiadur cyn arolygiad Estyn ar gyfer rhieni a gofalwyr, mae hyd yn oed yn fwy pwysig i ysgolion wybod beth yw barn eu rhieni. Defnyddiwch ein holiaduron i gasglu barn eich rhieni am destunau fel eu perthynas gyda’r ysgol, arweinyddiaeth a rheolaeth, lles plant a mwy.
Caffaeliad pennaf ysgol yw’r bobl sy’n gweithio ynddi ac mae’n hanfodol casglu eu barn er mwyn parhau i wella. Mae ein harolygon staff yn rhychwantu testunau fel lles staff ac yn sicrhau eich bod wedi paratoi’n dda ar gyfer holiadur athrawon a staff cymorth Estyn.
Cynigiwn ddewis o arolygon ar amrywiaeth eang o destunau a materion sy’n bwysig ym myd addysg heddiw, gan gynnwys holiaduron i lywodraethwyr, holiaduron clwstwr, holiaduron dysgu disgyblion a mwy. Gallwn hefyd greu holiaduron sydd wedi eu teilwra’n llwyr at eich sefydliad chi.
“Mae hyn yn wych ac rydw i wrth fy modd gyda’r adborth sydd mor gadarnhaol, a ninnau wedi bod yn ysgol newydd ers un flwyddyn academaidd yn unig. Edrychaf ymlaen at weld y copïau’n cyrraedd gan y bydd yn fy arbed i rhag gorfod argraffu’r cyfan! Diolch eto, gwasanaeth effeithlon, gwych. Byddaf yn sicr yn eich argymell i fy nghydweithwyr mewn ysgolion lleol eraill.”
Prisiau
Math | |||||
---|---|---|---|---|---|
Arolygon Disgyblion | |||||
Arolygon Rhieni | |||||
Disgyblion a Rhieni | |||||
Arolygon Staff | |||||
Disgyblion, Rhieni a Staff | |||||
Governor Survey | |||||
Os oes arnoch angen cyfuniad penodol o holiaduron neu os hoffech holiadur wedi ei deilwra'n arbennig, cysylltwch â ni. *Dylai ysgolion â 1300 o ddisgyblion neu fwy, gysylltu â ni am ddyfynbris. |

“Dim ond eisiau dweud un diolch olaf am eich cymorth. Rydym bellach wedi cael copi caled o’n canlyniadau, ac wedi cael trafodaeth wych a sesiwn cynllunio camau gweithredu yn ein diwrnod Cwrdd i Ffwrdd diwethaf i lywodraethwyr. Mae wedi bod yn gymorth mawr i ni ganolbwyntio ar rai o’r prif feysydd sy’n berthnasol i’r ysgol. Rydym hefyd wedi cytuno y byddai cynnal yr arolwg am o leiaf tair blynedd arall o gymorth i ni.”