Yn Cefnogi Ysgolion ers 2012
Yma, yn For Schools Gwasanaethu Addysg, un nod sydd gennym: gwneud gwahaniaeth i fywydau plant trwy wella ansawdd eu haddysg. Nid oes gennym unrhyw safbwynt gwleidyddol, ond ceisiwn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg orau bosibl o fewn y strwythurau a osodir gan y llywodraeth.
Heddiw, mae ysgolion yn wynebu mwy o heriau nag erioed o’r blaen, gyda lleihad yn eu cyllid, diwygiad ar ôl diwygiad gan y llywodraeth, materion recriwtio a, nawr, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, a’r cyfan yn cyfuno i greu amgylchedd gwaith sy’n aml yn llawn straen.
Ein cenhadaeth ni yma yn For Schools Gwasanaethu Addysg yw darparu gwasanaethau, cynnyrch a meddalwedd sy’n ddibynadwy ac yn fforddiadwy ac yn helpu lleihau’r baich ar ysgwyddau ysgolion. Mae gan ein gwasanaeth cymorth i gwsmeriaid enw da iawn ac rydym yn hynod o falch o lefel y gwasanaeth y mae ein tîm yn ei ddarparu ar gyfer ysgolion bob dydd.
Mae mwyafrif helaeth ein gwaith yn waith uniongyrchol gydag ysgolion yn y Deyrnas Unedig a thramor, ond rydym yn gweithio fwyfwy gyda sefydliadau addysg amgen, er enghraifft partneriaethau hyfforddiant a sefydliadau addysg uwch.
Credwn yn gryf fod pob ysgol yn wahanol ac, fel y cyfryw, gellir teilwra pob un o’n cynnyrch a’n gwasanaethau at eich lleoliad chi. Er mwyn darganfod sut y gallwn wneud hynny, neu i ofyn am wasanaeth nad ydych wedi ei weld ar y wefan, cysylltwch â ni.